Skip to main content

Think Creatively

Home » Amdanom Ni » Cwrdd â’r Tîm » Angharad Evans CY

Angharad Evans

CYD-GYFARWYDDWR ARTISTIG

Mae Angharad yn weithiwr proffesiynol sefydledig ym maes y celfyddydau cyfranogol gyda phrofiad helaeth o ddatblygu, hwyluso, cynhyrchu a rheoli prosiectau a darpariaethau celfyddydau cyfranogol lleol a graddfa fwy ledled Cymru 

Mae peth o’i gwaith ym maes celfyddydau awyr agored cyfranogol ar raddfa fawr yn cynnwys Prosiect Tirwedd Bryn Celli Ddu (Cadw), Goleuo’r Gwyllt (Walk the Plank), Lansio Roced Blaenafon (Cwmni Theatr Tin Shed) a Man Engine Forging a Nation (Golden Tree Productions)

Gweithio ar y cyd â chymunedau, partneriaid, ac artistiaid lleol trwy weithdai pwrpasol sy’n ymateb yn greadigol i dirwedd, treftadaeth Cymru a Diwylliant 

Mae Angharad yn cyflwyno gweithgareddau celfyddydol yn ddwyieithog gan ei bod yn frwd dros greu modelau gwaith sy’n darparu cyfleoedd i’r Iaith Gymraeg gael ei gwreiddio’n greadigol yn ei hymarfer mewn celfyddydau cyfranogol

Mae hi wedi cymhwyso’n ddiweddar fel Hwylusydd Lles mewn Natur i ddatblygu maes gwaith newydd. Mae ei meysydd gwaith allweddol yn canolbwyntio ar Dreftadaeth a Diwylliant Cymreig, y Celfyddydau a Lles mewn Natur, a Datblygiad Creadigol

Dewch i'n hadnabod yn well!